Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod 86,238 o landlordiaid wedi eu cofrestru erbyn hyn, sy'n golygu bod amcangyfrif o 3,762 yn gosod adeiladau yn anghyfreithlon. Mae cofrestru fel landlordiaid yn costio £33.50 os caiff ei wneud ar-lein, ac £80.50 ar bapur, waeth faint o adeiladau sydd ganddyn nhw. Lansiwyd y cynllun ar 23 Tachwedd 2015, gan roi 12 mis i landlordiaid gofrestru, cyn iddo ddod yn gyfraith y llynedd. Prif Weinidog, onid yw'n bryd i bob landlord ddilyn esiampl y mwyafrif llethol a chyflawni eu rhwymedigaethau cymdeithasol i'w tenantiaid, cydymffurfio â'r gyfraith a darparu amodau tai addas yng Nghymru? A beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i ddod â'r rheini sydd, am ba reswm bynnag, yn parhau dorri'r gyfraith—?