Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i'r landlordiaid hynny sydd wedi methu, hyd yma, â dod ymlaen, wneud hynny nawr. Maen nhw'n torri'r gyfraith. Os daw landlordiaid ymlaen nawr, efallai y byddan nhw'n osgoi unrhyw gosbau ariannol am beidio â chydymffurfio. Os na fyddan nhw'n dod ymlaen nawr ac yn cael eu darganfod yn ddiweddarach, yna, wrth gwrs, gallai Rhentu Doeth Cymru gyflwyno dirwyon, mynd â nhw i'r llys i'w herlyn, ac mae'r grym ganddyn nhw hyd yn oed i ddiddymu eu gallu i osod neu reoli adeiladau. Felly, mae'r cosbau yno. Mae'n hynod bwysig bod landlordiaid yn osgoi'r cosbau hynny trwy gydymffurfio â'r gyfraith.