Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Rwy'n siŵr y byddant yn cael eu denu gan y ffaith fod y dreth gyngor yn sylweddol is yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr o dan y Llywodraeth Geidwadol. Ond gofynnodd y cwestiwn am dreth stamp. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, y bydd angen ymateb i newidiadau i bolisi treth stamp yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU. Nawr bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhyddhad i brynwyr tro cyntaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried pa un a ddylid gwneud newidiadau i dreth trafodiadau tir.