Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, £240,000 yw'r pris tai Cymorth i Brynu cyfartalog i brynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy, sy'n debyg i Swydd Gaerloyw ar draws y ffin. Onid ydych chi'n pryderu, os bydd eich Llywodraeth yn methu â dilyn dull cyfatebol i Loegr ar gyfer prynwyr tro cyntaf, y bydd rhai o'n pobl ifanc yn gadael Cymru ac yn prynu dros y ffin yn hytrach?