Grŵp 5. Pŵer drwy reoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol (Gwelliant 10)

– Senedd Cymru am 5:43 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:43, 28 Tachwedd 2017

Grŵp 5, felly, yw’r grŵp nesaf o welliannau, sy’n ymwneud â’r pŵer drwy reoliadau i wneud diwygiadau canlyniadol. Gwelliant 10 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp. Rwy’n galw ar David Melding i gynnig y gwelliant ac i siarad iddo. David Melding.

Cynigiwyd gwelliant 10 (David Melding).

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:43, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwyf i'n cynnig gwelliant 10. Nododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei bryder bod adran 9, fel y'i drafftiwyd, yn rhoi pwerau eang iawn i wneud diwygiadau canlyniadol. Mae'r gwelliant hwn yn culhau'r pŵer hwnnw drwy ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus'. Yn rhan o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—ac rwy'n siŵr bod gennyf ryw fath o enw am ymdrin â'r materion hyn a'u pwysigrwydd, hyd yn oed os nad ydyn nhw bob amser yn cael eu rhannu'n eang—rwy'n rhannu pryderon aelodau eraill o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am natur eang y pŵer i wneud rheoliadau a bennir yn adran 9 o'r Bil.

Y farn gyson y cytunwyd arni oedd y dylai Gweinidogion Cymru fabwysiadu dull gweithredu mwy penodol, yn hytrach na chymryd y pwerau ehangaf posibl sydd ar gael iddyn nhw. Yng Nghyfnod 2, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod ef yn dymuno sicrhau bod 'neu'n hwylus' yn parhau i fod yn y Bil er mwyn rhoi i Weinidogion Cymru yr hyblygrwydd sydd ei angen arnyn nhw. Fodd bynnag, byddai'r gwelliant hwn yn dal i adael Gweinidogion Cymru â phwerau, drwy reoleiddio, i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed y maen nhw'n ei hystyried yn angenrheidiol, o ganlyniad i, neu at y diben o weithredu'n llawn unrhyw ddarpariaethau yn y Ddeddf hon, neu unrhyw ddarpariaethau a wneir o dan y Ddeddf hon.

Nid wyf yn gwybod faint mwy o hyblygrwydd sydd ei angen arnyn nhw na'r pwerau hynny, ond nid yw 'neu'n hwylus' yn ychwanegiad i'w groesawu ac felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliant hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 28 Tachwedd 2017

Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Fel yr ydym ni wedi clywed, mae gwelliant 10 yn ceisio hepgor y geiriau 'neu'n hwylus' o adran 9, sy'n darparu ar gyfer y pŵer i wneud gwelliannau canlyniadol.

Mae adran 9 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ganlyniadol os ydynt o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus i wneud hynny, o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir gan y Bil, neu o dan y Bil.

Mae gan y gair 'hwylus' ei ystyr ei hun yn y gyfraith ac mae'n caniatáu ar gyfer gwelliannau a all fod yn ddymunol, yn ddefnyddiol, neu o fudd ymarferol, ond a allai fethu prawf angenrheidrwydd llym.

Mae'n rhaid cofio hefyd bod cwmpas y pŵer hwn yn gyfyngedig, gan ei bod yn ofynnol i unrhyw ddiwygiadau canlyniadol a wneir o dan y pŵer hwn berthyn yn agos i'r darpariaethau a wneir gan y Bil. Felly, rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig bod y gair 'hwylus' yn parhau, er mwyn caniatáu hyblygrwydd priodol i weithredu'r Bil yn y modd mwyaf effeithiol.

Rwy'n ymwybodol bod Carl Sargeant wedi bod yn gohebu â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a rhoddodd enghraifft o sut y gallai'r gair 'hwylus' fod yn angenrheidiol, a dywedodd, er enghraifft, pe byddai'r pŵer i wneud gwelliannau canlyniadol yn cael ei ddefnyddio i symleiddio gweithdrefn weinyddol a oedd yn profi'n anodd ei chymhwyso neu'n anymarferol i denantiaid ymdopi â hi, gellid dadlau nad oedd hyn yn bodloni'r prawf angenrheidrwydd, o ran y gallai'r tenantiaid fyw gyda'r anhawster, er y gallai hynny fod yn annymunol. Byddai'r dull hwn, dywedodd, yn rhy anhyblyg a chyfyngol a gallai atal newidiadau buddiol rhag cael eu gwneud

Felly, gofynnaf i'r Aelodau, felly, wrthod gwelliant 10 gan y gallai olygu bod darpariaethau adran 9 yn rhy gaeth a gallent atal newidiadau buddiol rhag cael eu gwneud.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:47, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae gwendid yr enghraifft yn adlewyrchu'r gwendid yn safbwynt y Llywodraeth. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 10.

Gwelliant 10: O blaid: 16, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 568 Gwelliant 10

Ie: 16 ASau

Na: 34 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw