– Senedd Cymru am 5:47 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sy'n ymwneud â'r darpariaethau diddymu yn dod i rym. Gwelliant 12 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill. David Melding.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y dywedasoch, hwn yw'r grŵp olaf ac rwy'n cynnig y prif welliant—gwelliant 12.
Bydd y gwelliant hwn yn sicrhau na chaiff diddymu'r hawl i brynu a hawliau cysylltiedig ddod i rym tan o leiaf ddwy flynedd ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Ar hyn o bryd fel y'i drafftiwyd, byddai'r diddymu yn dod i rym ar ôl un flwyddyn. Hefyd, mae gwelliant 4 yn ganlyniadol i welliant 12.
Rwy'n credu bod cwmpas sylweddol i ymestyn cyfnod gras hawl i brynu i ddwy flynedd, fel yr oedd yn yr Alban. Yn ystod ein trafodion pwyllgor Cyfnod 1, nodwyd bod Mesur 2011 yn darparu, pan fyddai'r hawl i brynu yn cael ei atal am y cyfnod hwyaf o 10 mlynedd, y byddai'n ofynnol i awdurdodau lleol aros dwy flynedd cyn cyflwyno cais arall. Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol ar geisiadau i atal yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig, roedd hyn er mwyn caniatáu, a dyfynnaf, 'cyfnod rhesymol o amser' i denantiaid ystyried pa un a fydden nhw'n arfer yr hawl i brynu cyn y gallai'r awdurdod wneud cais am ataliad arall, gan greu cynsail clir iawn, yn fy marn i.
O gofio hyn, gofynnodd Mr Clarke o Tenantiaid Cymru pam mae'r Bil yn darparu cyfnod byrrach o amser, sef 12 mis, i'r diben o alluogi tenantiaid i ystyried yr un ystyriaethau cyn diddymu. Hefyd, codwyd pryderon ynghylch cynnydd sydyn posibl mewn gwerthiannau cyn y diddymu, yr oedd rhai o'r ymatebwyr yn ei gysylltu â'r cyfnod 12 mis o rybudd.
Llywydd, mae'r rhain i gyd yn rhesymau pwysig, yn fy marn i, pam y dylid ymestyn y cyfnod gras o un flwyddyn i ddwy. Bydd diddymu'r hawl i brynu yn cael effaith enfawr ar fywydau llawer o berchnogion cartrefi uchelgeisiol sy'n byw yn y sector cymdeithasol. Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ar y mater hwn, ac rwy'n siŵr bod Aelodau eraill wedi cael profiad tebyg.
Cododd rhai aelodau'r pwyllgor yng Nghyfnod 2 y gwrthwynebiad bod y gyfraith bosibl hon yr ydym yn ei hystyried y prynhawn yma eisoes yn gyhoeddus, ac felly bod pobl eisoes yn ymwybodol ohoni a'i hamserlen. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn ystyried hon yn farn weddol ddelfrydol o sut y mae'r cyhoedd yn ymgysylltu â'r ddeddfwrfa, ond, beth bynnag, nid wyf yn derbyn y ddadl. Ni allwn weithredu darn o ddeddfwriaeth sylfaenol fel hyn gydag amserlen sy'n seiliedig ar y dybiaeth y bydd pobl yn debygol o fod yn ymwybodol o'r hyn yr ydym yn ei drafod yma yn y Cynulliad. Yn ystod Cyfnod 1, ac rwy'n ystyried achosion fy etholwyr fy hun, clywais i gan denantiaid nad oedden nhw'n ymwybodol hyd yn oed fod atal yn mynd rhagddo yn eu hardal nhw, ac roedden nhw i fod yn rhan o'r ymgynghoriad. Credaf felly, fod yn rhaid inni sylweddoli bod hyn yn mynd i fod yn ergyd fawr i rai pobl pan fyddan nhw'n cael y wybodaeth honno y gwnaeth y Gweinidog ein sicrhau ni, er gwaethaf y diffyg dyletswydd i hysbysu, y byddan nhw'n ei chael, ac rwy'n eithaf siŵr y byddan nhw yn ei chael. Nid wyf yn credu bod y Llywodraeth yn bod yn anghyfrifol yn y fan yma, hyd yn oed os nad wyf i o'r farn ei bod wedi dewis y dull gorau o hysbysu tenantiaid a landlordiaid.
Felly, yr hyn nad ydym ni ei eisiau, rwy'n credu, yn dilyn gweithredu'r Bil, yw sefyllfa lle mae tenantiaid yn gwneud penderfyniadau yn rhy gyflym. Bydd cyfnod o ddwy flynedd yn rhoi sicrwydd i denantiaid bod ganddyn nhw ddigon o amser ar ô o hyd, pe bydden nhw'n dymuno bwrw ymlaen â phrynu eu cartrefi. Mae honno'n ail ddadl bwerus i fod â chyfnod o ddwy flynedd. Hefyd, dylai'r cyfnod gras o ddwy flynedd leihau unrhyw gynnydd sydyn a ddisgwylir mewn gwerthiant. Mae'n fwy tebygol y bydd tenantiaid yn cymryd eu hamser ac y bydd hyn yn arwain at wasgaru ceisiadau, yn hytrach na chynnydd ar unwaith. Dyma'n wir a ddigwyddodd yn yr Alban, pan roddwyd cyfnod gras o ddwy flynedd i denantiaid yn dilyn diddymu'r hawl i brynu yn yr Alban, ac ni fu unrhyw gynnydd ar unwaith yn nifer y cartrefi a brynwyd. Os edrychwch chi ar eu gwerthiannau, fe wnaethon nhw aros mewn patrwm eithaf tebyg.
Felly, rwy'n credu bod rhesymau ymarferol, eglur iawn dros ymestyn y cyfnod gras o un i ddwy flynedd, ac rwy'n annog y Cynulliad i gefnogi'r gwelliant hwn.
I call on the Minister for Housing and Regeneration, Rebecca Evans.
Diolch. Mae'r cyfnod o rybudd rhwng y Cydsyniad Brenhinol a'r diddymu terfynol yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng diogelu stoc tai cymdeithasol a rhoi hysbysiad rhesymol i denantiaid bod yr hawliau yn dod i ben. Mae'r darpariaethau yn y Bil yn sicrhau y bydd tenantiaid yn cael gwybodaeth o fewn dau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn yn rhoi 10 mis arall cyn y diddymu terfynol i gyflwyno cais i brynu eu heiddo.
Mae deuddeg mis yn swm teg a rhesymol o amser. Mae'n rhoi digon o amser i denantiaid i gael cyngor cyfreithiol ac ariannol priodol ar oblygiadau perchentyaeth. Cyfeiriwyd at yr achos yn yr Alban, a chytunodd Senedd yr Alban ar gyfnod rhybudd o ddwy flynedd rhwng y Cydsyniad Brenhinol a'r diddymu terfynol, er i'r Pwyllgor a oedd yn craffu ar y Bil yn yr Alban argymell cyfnod o flwyddyn o leiaf. Nid oedd y ddeddfwriaeth yn yr Alban yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau manwl i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i'r holl denantiaid perthnasol cyn gynted â phosibl ar ôl y Cydsyniad Brenhinol ychwaith, sy'n ddarpariaeth allweddol yn ein Bil ni. Daeth yr hawl i brynu yn yr Alban i ben ar 31 Gorffennaf 2016, a thrwy gydol y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Medi 2016, cafwyd 37 y cant yn fwy o geisiadau yn ystod y flwyddyn nag yn y flwyddyn flaenorol. Felly, cafwyd cynnydd sydyn yn sicr yn yr Alban, er gwaethaf y ffaith bod ganddyn nhw gyfnod o ddwy flynedd.
Felly, yng Nghymru, bydd tenantiaid yn gallu arfer yr hawl i brynu ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad diddymu, ac nid oes rhaid cwblhau'r broses hon cyn i'r diddymu ddigwydd. Roedd yr adroddiad gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn nodi bod y rhan fwyaf o'r rhanddeiliaid yn fodlon ar gyfnod o 12 mis o rybudd. Daeth adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i'r casgliad bod yr isafswm o 12 mis o gyfnod rhybudd yn taro cydbwysedd priodol rhwng yr angen i roi digon o amser i denantiaid ymarfer eu hawliau, a'r angen i atal colli rhagor o stoc tai cymdeithasol mor gyflym â phosibl.
Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliant 12 a gwelliant 4 sy'n gysylltiedig.
A gaf i ildio ar un pwynt, bod y 12 mis, mewn gwirionedd, yn fwy na hynny? Oherwydd yn ystod y 12 mis hynny mae'n rhaid i chi fynegi eich bwriad i arfer yr hawl i brynu, ac yna os mynegir y bwriad hwnnw, yna gellid ei arfer yn ffurfiol mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod ar ôl y 12 mis. Felly, mae hynny o gymorth, ac roeddwn i'n falch bod y Llywodraeth wedi gwneud hynny'n glir yn y pwyllgor, ac rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog wedi cadarnhau hynny y prynhawn yma. Felly, fe roddaf gymeradwyaeth i chi am hynny o leiaf.
Ond, yn gyffredinol, mae'n rhaid imi ddweud bod cyfnod o ddwy flynedd ar newid mor sylfaenol yn yr hawliau sydd gan bobl, ac sydd wedi bod ganddynt am ddegawdau lawer, yn briodol, yn fy marn i. Dyna ddigwyddodd yn yr Alban, ac yn amlwg mae gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, o'i gymharu â Llywodraeth yr Alban. Efallai eich bod chi'n iawn, efallai eu bod nhw'n anghywir, ond rwy'n credu bod angen rhyw fath o gyfiawnhad arnom ynghylch pam nad ydych chi'n credu bod dwy flynedd yn fwy priodol. O ystyried popeth yr ydych chi wedi'i glywed am boblogrwydd y polisi hwn, y dystiolaeth gref a glywsom gan denantiaid—ac roedden nhw eisiau llawer mwy o hyblygrwydd ac arlliw yn y dull hwn, yn y ffordd y byddai'r Bil yn gweithredu—ac rydym ni wedi cael ymateb calon-galed, a dweud y gwir.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, yr oeddem yn siomedig iawn ar yr ochr hon i'r Siambr bod yr hawl i brynu am gael ei ddiddymu. Rydym ni wedi dadlau—a byddem yn dal i ddadlau, pe gallem fynd yn ôl at hyn—y dylai'r hawl i brynu gael ei ddiwygio. Dyna beth sy'n mynd i ddigwydd yn Lloegr, a dyna'r cyfeiriad y dylem ni fod wedi'i gymryd. Ond gwnaethpwyd y penderfyniad, ac fe wnaethom ymdrechu'n galed i gynnig ffyrdd o gryfhau'r Bil hwn o safbwynt adlewyrchu hawliau ac anghenion tenantiaid i'r eithaf, heb danseilio'r bwriad canolog. Ond yn amlwg, rydym ni wedi methu yn hynny o beth, ac rwy'n credu y bydd hynny'n aros ar y cofnod. Yn amlwg, nid yw'r mater hwn yn mynd i ddiflannu. Bydd yn parhau, rwy'n credu, yn bennaf yn gwestiwn o gyflenwad tai, ac os na fyddwn yn adeiladu digon o dai, cartrefi teuluol yn arbennig, lle gallem fod yn brin o 50,000 neu 60,000 erbyn 2030 ar sail rhagamcaniadau presennol, yna bydd gennym broblemau gwirioneddol. Mae hynny'n parhau i fod y peth pwysicaf y mae'n rhaid i ni ei ddatrys.
Onid ydych chi'n derbyn y gellid datrys y broblem dros nos pe byddai'r Trysorlys yn caniatáu i awdurdodau lleol fenthyca yn erbyn gwerth eu stoc tai er mwyn adeiladu tai, fel y gwnaethant yn y 1950au a'r 1960au, ond nad yw'r Trysorlys a'r Torïaid yn caniatáu iddyn nhw ei wneud nawr?
Iawn. Wel, wyddoch chi, Mike, rwyf wedi dweud bod angen i ni adeiladu mwy o dai. Rwyf wedi dweud fy mod yn fodlon i gynghorau adeiladu tai nawr. Mewn gwirionedd, dywedais i hynny, rwy'n credu, cyn i gydweithwyr yn San Steffan, yn fy mhlaid i, gael eu hargyhoeddi o hyn. Mae angen inni adeiladu. Beth bynnag yw'r dulliau angenrheidiol neu'r cymorth a fyddai'n caniatáu inni wneud hynny, rwyf yn mynd i fod yn ymarferol iawn. Dyna'r cyfan y gallaf ei ddweud.
Felly, bydd yn parhau, yn bennaf, yn fater o gyflenwad. Mae'n rhaid imi ddweud, ar y mater hwnnw, yn sicr yn ystod bywyd y pumed Cynulliad, yn y dadleuon am dai a'r holl ymyraethau yr wyf i wedi gallu eu gwneud, rwyf i wedi herio'r amcanestyniadau ar gyfer tai yn gyson, wedi gofyn i'r Llywodraeth dderbyn yr amcanestyniad amgen y gwnaeth gomisiynu yr Athro Holmans i'w lunio, ac wedi gwthio a gwthio ar y mater hwn. Rydym yn gweld rhai arwyddion o newid erbyn hyn. Rwy'n sylwi bod y sector allan yn y fan yna ychydig yn fwy taer o ran nifer y cartrefi cymdeithasol a ddylai fod gennym, ac rwy'n credu bod hynny'n beth da. Mae angen i ni adeiladu llawer iawn mwy o gartrefi.
Ond rwyf i o'r farn, fel fy nghyd-Aelodau, fod y polisi hawl i brynu wedi bod yn un rhyddhaol a helaeth i nifer fawr iawn o bobl. Faint? Wel, cymerodd tua 150,000 y cyfle hwn. Mae wedi mynd yn llai poblogaidd oherwydd nad yw efallai mor ddeniadol nawr i faint bynnag o bobl sy'n dal i fod mewn tai cymdeithasol. O ystyried pris tai, byddwn yn gweld, mwy na thebyg, bod angen mwy o ddarpariaeth tai cymdeithasol beth bynnag, ond roedd yn bolisi anhygoel o lwyddiannus. Mae'n dal i fod yn bolisi poblogaidd, fel y gwelsom yn y dystiolaeth yn y Pwyllgor, ac o'r safbwyntiau a fynegwyd gan denantiaid a thystiolaeth o arolygon allan yn y fan yna. Rwy'n dweud hyn wrthych chi: dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi gweld diwedd yr hawl i brynu. Rwy'n credu ei fod yn fater a fydd yn dychwelyd, a bydd ganddo hyrwyddwyr bob amser ar yr ochr hon, a fydd yn dweud ei fod yn ddull gwych o berchentyaeth y mae llawer o bobl yn dyheu amdano.
Os na dderbynnir gwelliant 12, bydd gwelliant 4 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 12? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Gwrthodwyd y gwelliant—gwelliant 12.
Rydym felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a'r Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Rwyf yn datgan felly y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Daw hynny, felly, â'n trafodion yng Nghyfnod 3 heddiw i ben.