3. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:50, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein dull cydweithredol o wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

Mae'n amlwg y ceir consensws ymhlith yr Aelodau o'r holl bleidiau y dylai plant sy'n derbyn gofal gael yr un dechrau mewn bywyd a chyfleoedd â phob plentyn arall. Rydym yn nodi hyn yn glir fel ein gweledigaeth a'n hymrwymiad i blant sy'n derbyn gofal yn y rhaglen lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen' a'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Roeddwn i'n falch o gael y cyfle i drafod y dull traws-lywodraethol i wireddu'r weledigaeth hon â fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet yn fy nghyfarfod Cabinet cyntaf yn gynharach y mis hwn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi aros yn gyson uchel. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 5,662 o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a bod tua 700 o bobl ifanc yn gadael gofal bob blwyddyn. Drwy ganolbwyntio yn fwy ar atal ac ymyrraeth gynnar, rwyf eisiau gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dod i mewn i ofal, gan barhau i sicrhau y gwneir y penderfyniadau cywir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Ni ellir cyflawni hyn heblaw drwy ddefnyddio dull cydweithredol, drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol rheng flaen, rheolwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Nawr, rwy'n credu fy mod i ar dir cadarn wrth ddweud bod pob un ohonom yn dymuno gweithio mewn modd cydweithredol. Ac i mi, mae cydweithio i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal yn un o'r cyfleoedd gorau sydd gennym i ddangos gwerth gwaith traws-lywodraethol.

Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o blant yn ffynnu wrth gael eu caru ac wrth dderbyn gofal yn eu teuluoedd eu hunain. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu y dylid gadael plant gyda'u teuluoedd doed a ddelo. Rydym yn cydnabod bod adegau pan fo'n rhaid i awdurdodau ymyrryd er lles a diogelwch plant. Fodd bynnag, po fwyaf y gallwn ni helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ystod adegau anodd, drwy gynnig y lefel gywir o gymorth yn yr amgylchedd cywir, y mwyaf y gallwn ni ei wneud ar gyfer y plant nad ydyn nhw'n gallu aros gartref.

Rwyf i wedi penderfynu y bydd y grŵp cynghori'r gweinidog a sefydlwyd gan y cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn parhau. Mae'r grŵp hwn yn allweddol wrth arwain y gwaith hwn a fy nghynghori i, a daw ei aelodaeth o bob rhan o'r Llywodraeth ac o bob sector sy'n darparu gwasanaethau uniongyrchol i deuluoedd. Cyfarfûm â'r Cadeirydd, yr Aelod Cynulliad David Melding, yr wythnos diwethaf i drafod gwaith arloesol y grŵp cynghori hwn. Mae David wedi bod yn arwain y gwaith hwn yn fedrus ac rwy'n falch o gadarnhau ei fod wedi cytuno i barhau yn y swyddogaeth hon.

Mae cyflawni ein cydweledigaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn gofyn am ymagwedd system gyfan ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cynorthwyo drwy ddarparu cyllid hael gan y Llywodraeth. Dim ond eleni, rydym ni wedi buddsoddi £8 miliwn i ysgogi newid a gwella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i wneud newidiadau cynaliadwy a fydd, yn y pen draw, yn lleihau nifer y plant sy'n dod i mewn i ofal. Mae hyn yn cynnwys £5 miliwn i ehangu gwasanaethau ar ffiniau gofal awdurdodau lleol; £850,000 i ehangu'r prosiect Adlewyrchu i'r saith rhanbarth yng Nghymru͏—mae hwn yn brosiect sy'n gweithio gyda mamau ifanc i dorri'r cylch o ailfeichiogi ac achosion gofal rheolaidd; £1.625 miliwn i helpu pobl sy'n gadael gofal ar eu taith tuag at annibyniaeth drwy wella cynlluniau prentisiaeth a hyfforddiant  awdurdodau lleol ac ymestyn y gallu i gael defnyddio gwasanaethau cynghorwyr personol hyd at 25 oed; £400,000 i gyflawni'r Fframwaith Maethu Cymru; a £125,000 i ddatblygu gwaith cymorth mabwysiadu ledled y wlad.

Hefyd, mae ein cronfa Dydd Gŵyl Dewi gwerth £1 miliwn, a lansiwyd gennym ym mis Mawrth, yn darparu cymorth hyblyg, ariannol uniongyrchol i'r rhai sy'n gadael gofal yn yr un modd ag y mae pobl ifanc eraill yn cael cymorth ariannol gan rieni. Roedd Carl Sargeant yn angerddol am y gronfa hon, a byddai'n falch o'r effaith gadarnhaol y mae eisoes yn ei chael ar y rhai sy'n gadael gofal ledled Cymru.

Mae'r grŵp wedi datblygu rhaglen o newid yn seiliedig ar dair thema, sef: yn gyntaf, atal plant rhag dechrau derbyn gofal, ac ymyrraeth gynnar — y dull ataliol; yn ail, gwella canlyniadau ar gyfer plant sydd eisoes yn derbyn gofal; ac yn drydydd, cefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i ddyfodol annibynnol llwyddiannus. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd da, ac rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i weithio gyda ni. Erbyn hyn, rydym ni ar gam pryd y gallwn ni gynyddu cyflymder y gwelliant a gosod nodau traws-lywodraethol, heriol i gyflawni newidiadau gwirioneddol arwyddocaol i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal.

Dengys ymchwil bod cysylltiad cryf rhwng nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal ac amddifadedd mewn ardaloedd lleol. Trwy fynd i'r afael â thlodi a meithrin cydnerthedd cymunedol, byddwn yn helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd yn ystod adegau o argyfwng. Eleni, rydym ni wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o fesurau atal ac ymyrraeth gynnar i gefnogi teuluoedd ac i leihau nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal. Yn ogystal â'r buddsoddiad o £5 miliwn mewn gwasanaethau ar ffiniau gofal y cyfeiriais ato, rydym ni wedi darparu £76 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer Dechrau'n Deg a £38 miliwn ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf. Mae ein pwyslais wrth fwrw ymlaen ar y blynyddoedd cynnar hynny. Rydym ni'n cydnabod bod hwn yn gyfnod tyngedfennol o ran datblygiad plant a chanlyniadau, yn enwedig ar gyfer y rhai sy'n byw mewn amddifadedd. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu system blynyddoedd cynnar integredig i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth cywir.