Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 28 Tachwedd 2017.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei ddatganiad ar wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal? Yn amlwg, fel y trafodwyd gennym yr wythnos diwethaf, yn y ddadl yn y fan yma ar gamddefnyddio sylweddau, mae rhai plant yn cael dechrau erchyll mewn bywyd—yn cael eu hesgeuluso, eu cam-drin, eu poenydio, a'u hamddifadu o gariad. Mae llawer o hyn yn y diwedd yn achosi problemau â chyffuriau ac alcohol, a digartrefedd hefyd, fel y trafodwyd yr wythnos diwethaf. Mae'n iawn i ganmol gwaith Llamau, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i wneud yn ei ddatganiad—gwaith rhagorol dros y blynyddoedd, gan Llamau, o ran cydnabod a helpu i ddatrys problemau digartrefedd ymhlith ein pobl ifanc.
Rwy'n hoffi'r syniad, fel y dywedodd y Gweinidog yn y fan yma yn ei baragraff olaf ond un, o gael gwared ar y rhwymedigaeth treth gyngor i bawb sy'n gadael gofal rhwng 18 a 25 oed. Rwy'n hoffi'r syniad hwnnw, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dwyn ffrwyth. Mae'n rhaid inni aros i weld. Yn amlwg, ar ôl dechrau mor erchyll, yn anochel gall plant fynd i dderbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn y pen draw. Ydyn, mae rhai ohonom ni wedi bod yn gynghorwyr sir hefyd yn ein tro ac rydym ni'n ymwybodol iawn o'n swyddogaeth rhianta corfforaethol parhaus nawr, ond dechreuodd hynny yn ein dyddiau awdurdod lleol.
Yn ôl at y datganiad a'i bwyslais ar yr agenda ataliol, mae un neu ddau o gwestiynau yn dod i'r meddwl. Yr un cyntaf: yn amlwg, mae ansawdd gofal maeth yn hollbwysig, ac rwy'n deall bod y fframwaith cenedlaethol ar gyfer maethu yn cael ei drafod. Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym am hynny, gan gynnwys, er enghraifft, y buddsoddiad ychwanegol y bydd yn ei roi i hyfforddiant a chefnogi gofalwyr maeth.
Gan symud ymlaen, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol fod â chynlluniau gofal y tu hwnt i 18 oed ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys ariannu lleoliadau maeth parhaus, pan fo'r ddwy ochr yn dymuno hynny. O ran parhau i ariannu lleoliadau maeth, faint o'r cynlluniau hyn sydd wedi digwydd, a beth yw'r canlyniad? Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn falch o gael y wybodaeth honno i law. Yn amlwg, er bod gwaith i atal plant rhag mynd i mewn i'r system gofal yn hollbwysig, pa gamau diogelu sydd wedi'u sefydlu i sicrhau nad yw plant yn cael eu niweidio hyd yn oed mwy oherwydd ymgais annoeth i'w hatal rhag mynd i'r system ofal? Yn olaf, er bod cymorth ar gael i ofalwyr maeth a mabwysiadwyr ar gyfer unrhyw broblemau ymddygiad, nid yw'n ymddangos bod ymwybyddiaeth ehangach yn y system addysgol, ac nid yw rhai ysgolion, mae'n debyg, yn cymryd i ystyriaeth y gallai dechrau gwael mewn bywyd fod yn gyfrifol am rywfaint o'r ymddygiad heriol ac ni fyddai angen i hynny ddigwydd pe byddai ysgolion yn rhoi ystyriaeth resymol i hyn. Bu sawl enghraifft dros y blynyddoedd—pe byddai pobl ond wedi bod yn fwy ymwybodol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni ofyn i'r Gweinidog weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod hyfforddiant i athrawon yn cynnwys hyfforddiant ar broblemau esgeulustod, cam-drin ac anhwylder ymlyniad. Diolch yn fawr.