3. Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 3:21, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, rwy'n ategu sylwadau David Melding am y cyn-Weinidog a natur amhleidiol hyn. Hoffwn innau hefyd estyn llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd.

Mae llawer o bethau da yma, ac rwyf wedi clywed llawer o bethau da yr ydych chi wedi eu dweud heddiw. Sylwais eich bod wedi dweud yr hoffech chi weld gostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal. Sylwais eich bod yn dweud po fwyaf y gallwn ni helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ystod cyfnodau anodd, drwy gynnig y lefel gywir o gymorth'— mai dyna'r ffordd iawn o wneud pethau. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni i am yr achosion a gaf i dro ar ôl tro ar ôl tro yw ei bod yn ymddangos bod rhieni sy'n awyddus iawn i gadw eu plant yn y rhanbarth hwn, Canol De Cymru, yn eu colli am amrywiaeth eang o resymau, ac yn aml, nid yw diogelwch yn un ohonynt. Mae gennyf achos ar fy llyfrau lle y cydnabyddir bod y rhieni yn caru'r plant, y plant yn caru'r rhieni, ac yn anffodus i'r rhieni, eu bod wedi galw ar y gwasanaethau plant am gymorth, ac yna wedi colli'r plant, ac maen nhw'n ymladd yn daer i'w cael yn ôl, oherwydd bod yr adran gwasanaethau plant benodol honno yn dweud nad oes gan y rhieni hyn y sgiliau i fod yn rhieni.

Rwyf i'n amau'r farn honno, oherwydd yn rhy aml o lawer mae rhieni yn dweud wrthyf bod mabwysiadu a gofal bron â bod yn ddiwydiant, ac mae'r ymgysylltu yr wyf i wedi ei gael â theuluoedd —. Yn eironig, dim ond heddiw cefais neges gan fam sydd eisiau imi fynd i ymweld â hi oherwydd ei bod mewn perygl o golli ei phlentyn. Byddwn i'n dweud, mewn gwirionedd, fel cyn-athro proffesiynol, bod angen cymorth ar deuluoedd, ond yr hyn y maen nhw'n ei gael yw system wrthwynebol iawn sy'n cwestiynu, bron, a cheir dull ticio blychau gan weithwyr cymdeithasol sydd o dan bwysau aruthrol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed beth oedd eich barn am y pethau hynny a pha un a ydych chi'n edrych ar wledydd ledled y byd lle na cheir unrhyw fabwysiadu gorfodol, gan fod mabwysiadu gorfodol yn rhywbeth sy'n peri llawer o bryder i mi, mewn gwirionedd, wrth edrych ar y math o achosion yr wyf i wedi edrych arnynt am ormod o amser o lawer, mewn gwirionedd, nid yn unig yn y fan hon, ond dros y ffordd hefyd.