Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Rwy'n bwriadu edrych ar sut mae dwy ddinas Ewropeaidd, Aarhus yn Denmarc a Mannheim yn yr Almaen, yn hyrwyddo entrepreneuriaeth. Mae pobl yn aml yn sôn am rai o ddinasoedd mawr y byd—ac weithiau am Gaergrawnt ac weithiau am ardaloedd yng nghyffiniau Harvard—ond dwy ddinas Ewropeaidd canolig ei maint yw'r rhain. Rwy'n mynd i sôn am rwystrau sy'n atal busnesau canolig rhag tyfu, gan fod Cymru yn wael iawn am ddatblygu cwmnïau canolig eu maint i fod yn gwmnïau mawrion—rydym ni wedi gwneud hynny unwaith, i ddweud y gwir, yn do—a'r rhwystrau sy'n atal microfusnesau rhag tyfu i fod yn fusnesau mwy o faint, gan ddechrau gydag Aarhus.
Ail ddinas fwyaf poblog Denmarc yw Aarhus. Cymharwch hi ag Abertawe, sef yr ail ddinas yng Nghymru. Mae cynnyrch domestig gros yn Abertawe yn 75 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd; yn Aarhus, mae'n 107 y cant. Felly, yn amlwg, mae Aarhus gwneud rhywbeth yn iawn. Mae gan Aarhus brifysgol a sefydlwyd ym 1928—felly, o'i chymharu â'n prifysgol ni, mae hi'n hollol fodern—a hi yw'r brifysgol fwyaf yn Denmarc, gyda 44,500 o fyfyrwyr ym mis Ionawr 2013. Mae'n siŵr ei fod wedi cynyddu ers hynny. Yn rhestrau graddio prifysgolion gorau'r byd, mae hi'n rheolaidd ymysg y 100 uchaf.
Ond beth arall mae hi'n ei wneud? Yr ardal ymchwil mwyaf yw Parc Gwyddoniaeth INCUBA, sy'n canolbwyntio ar TGCh ac ymchwil biofeddygol. Mae'r brifysgol a buddsoddwyr preifat yn rhanberchnogion ar y sefydliad ac mae'n ceisio meithrin perthynas agos rhwng sefydliadau cyhoeddus a chwmnïau newydd. Fel y gwyddom ni i gyd, TGCh ac ymchwil biofeddygol yw dau o'r diwydiannau twf presennol ar draws y byd.
Mae Mannheim wedi ei gefeillio ag Abertawe, ond dyna ble mae'r tebygrwydd yn dod i ben. Mae edrych ar y data economaidd ar gyfer y ddwy ardal yn ddiddorol—ac o'm rhan i sy'n byw yn Abertawe, yn ddigalon. Mae gan ranbarth metropolitan Mannheim werth ychwanegol gros sy'n 147 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd, ond yn y ddinas ei hun mae'n cynyddu i 210 y cant, o'i gymharu ag Abertawe sydd ar 75 y cant. Felly, i unrhywun sy'n ennill £20,000, byddai rhywun sy'n gwneud swydd debyg yn Mannheim yn ennill ychydig o dan £60,000.
Sefydliad sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol yw canolfan entrepreneuriaeth ac arloesi Mannheim, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr sefydlu a meithrin busnesau. Cefnogir y sefydliad gan y sefydliad mittelstand ac ymchwil busnesau bach a chanolig Mannheim, a chadeirydd ymchwil busnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Mannheim.
Busnesau newydd llwyddiannus: yn ôl ffynonellau o'r cyfryngau lleol, gwerthwyd Payback i American Express am €500 miliwn. Cododd Delivery Hero $1.4 biliwn o gyllid. Cododd Auto1 $200 miliwn mewn cyllid. Mae cwmnïau eraill yn bod hefyd, fel Goodgame, sy'n dechrau ar y broses o gyflwyno cynigion cyhoeddus cychwynnol, gan godi £32 miliwn mewn cyllid. Ac wedyn dyna i chi Movilizer, a werthwyd i Honeywell. Nid yw pob un ohonyn nhw yn aros mewn perchnogaeth leol, ond maen nhw i gyd wedi tyfu. Mae hynny'n esbonio pam y cafodd Mannheim ei gosod yn unfed ar ddeg yn y 15 uchaf o'r dinasoedd mwyaf dyfeisgar ledled y byd. Allwn ni gael tîm o Gymru, dinas o Gymru, yno os gwelwch yn dda?
Gan droi at Gymru, yr hyn y mae cwmnïau canolig yn ei ddweud wrthyf yw eu problemau: anallu i sicrhau cyllid ar asedau sydd ganddyn nhw dramor; nid yw terfyn o £5 miliwn ar fenthyciadau gan fanc masnachol Cymru yn diwallu anghenion busnesau canolig eu maint; maint contractau Llywodraeth Cymru—caiff rhai eu llunio yn y fath fodd fel na all fentrau canolig dendro amdanynt. Mewn gwirionedd, caiff llawer eu rhoi at ei gilydd fel na all unrhyw gwmni yng Nghymru dendro ar eu cyfer. Anhawster cael cyfalaf gweithio gan fanciau masnachol, a'r perygl y byddant yn ei alw'n ôl unrhyw bryd.
Roedd un cwmni micro a oedd wedi tyfu yn gwmni bach yn dweud wrthyf i mai dyma oedd eu problemau: dod o hyd i safle yr oedd posib ei ehangu; angen symud yn barhaus wrth iddyn nhw dyfu; diffyg adeiladau ar gael yn rhwydd; taliadau hwyr; yn y diwydiant adeiladu, twf parhaus gweithwyr asiantaeth wedi eu his-gontractio sy'n llesteirio cystadleuaeth; ac anhawster cael mynediad i farchnadoedd. A yw hi'n syndod bod y bragdai bach wedi bod ymhlith y mwyaf llwyddiannus? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bu archfarchnadoedd mawr a Wetherspoon yn awyddus i werthu eu cynnyrch. Rydym ni'n gwybod—rydym ni wastad yn sôn am ein hetholaethau ein hunain— am fragdy Boss yn Abertawe. Fe allwch chi brynu eu cwrw yn nhafarndai Wetherspoon a'i gael yn y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd mawr. Ond mae hynny oherwydd bod y cwmnïau mawr yn helpu. Ac mae bragdai bychain yn tyfu ar hyd a lled Cymru oherwydd bod ganddyn nhw hynny.
Felly, beth sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru? Gweithio'n agosach gyda phrifysgolion, naill ai ar fodel busnes Aarhus neu fel canolfan arloesi ac entrepreneuriaeth Mannheim. Ond mae angen inni ddefnyddio prifysgolion. Rydym ni hefyd yn gwybod bod y term 'technium' wedi dod yn gyfystyr â methiant, ond roedd y syniad cychwynnol o'i ddefnyddio yn Abertawe i ddarparu cyfleusterau ar gyfer cwmnïau newydd oedd yn deillio o'r brifysgol yn un da. Roedd galw pob uwch ffatri yn ganolfannau technium yn siŵr o fethu. Mae angen inni ddarparu benthyciadau mwy gan fanciau masnachol i gwmnïau canolig; darparu cynlluniau benthyciadau yn erbyn asedion tramor; llunio contractau'r Llywodraeth mewn maint o'r fath y gall cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru ymgeisio; a'i gwneud hi'n haws i microgwmnïau ehangu. Nid ydym ni'n ddim llai medrus, entrepreneuraidd a galluog nag unrhyw le arall. Mae angen polisi sy'n gweithio arnom ni i gefnogi twf cwmnïau Cymreig ac i gychwyn rhai newydd.