Grŵp 2. Cyfnod diddymu (Gwelliannau 6, 13, 2)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:23, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Siân Gwenllian newydd ei ddweud. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn gwbl bosibl i'r Cynulliad wyrdroi'r Ddeddf hon pe bai'r sefyllfa'n newid. Ond nid wyf yn credu bod unrhyw beth arloesol am yr hyn y mae David Melding yn ei gynnig. Pe byddech wedi cyflwyno cynnig i ganiatáu i awdurdod lleol nad oes ganddo restr aros am dai ac sy'n cael trafferth llenwi'r cartrefi hynny— byddai hwnnw'n gynnig y byddwn yn edrych arno gyda diddordeb mawr, oherwydd credaf fod honno'n sefyllfa lle byddai'n berffaith bosibl i adael i'r tai hynny fynd o'r sector cymdeithasol. Ond er bod y niferoedd mawr o bobl sy'n aros i gael cartrefi gweddus wedi cronni dros y 36 mlynedd diwethaf, lle'r ydym wedi caniatáu i'r eiddo hyn fynd o'r sector tai cymdeithasol, ac ni ddaeth dim yn eu lle mewn 36 o flynyddoedd ers i Mrs Thatcher ei gyflwyno—dyna sydd wedi creu'r drasiedi sydd gennym heddiw.

Nid wyf yn credu bod y cynigion arfaethedig gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i adeiladu 300,000 o gartrefi y flwyddyn, ar ôl gwneud cyn lleied yn y saith mlynedd diwethaf, yn unrhyw beth heblaw rhith. Nid oes un o'r cartrefi newydd lledrithiol hyn yn cael eu hadeiladu, cyn belled ag yr wyf i'n ymwybodol ohonynt—fel tai cyngor, beth bynnag. Pryd wnaeth y farchnad erioed ddarparu cartrefi sydd eu hangen ar deuluoedd cyffredin ar incwm cyfartalog mewn gwirionedd? Cofiaf y budreddi o'r 1960au a'r 1970au pan oedd rhai awdurdodau lleol Llafur yn gorfod prynu strydoedd cyfan o dai canol dinas a oedd yn pydru oddi wrth landlordiaid preifat a'u troi'n gartrefi cyngor—roedd hyn yn dangos yn ddiriaethol ac yn rymus bŵer gwladwriaeth yn gwneud yn iawn am fethiant yn y farchnad. Felly, pa gamau fyddai David Melding yn cynnig y dylem eu cymryd yn erbyn y prif adeiladwyr tai sydd eisoes yn eistedd ar fanciau tir sydd â chaniatâd cynllunio ar gyfer tai y maent yn dewis peidio ag adeiladu arnynt? Nid wyf yn gweld trawsnewid o'r angen brys am dai yn y ddegawd nesaf, ac felly ni chredaf ein bod yn creu ateb i'r broblem yn y ffordd gywir drwy ei gwneud yn syml yn brosiect 10 mlynedd. Rhaid inni sicrhau ein bod yn diddymu'r hawl i brynu hyd nes na fydd gennym broblem, gyda'r rhai sydd angen tai cymdeithasol yn gallu cael eu lletya mewn cartrefi priodol.