Grŵp 2. Cyfnod diddymu (Gwelliannau 6, 13, 2)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:22, 28 Tachwedd 2017

Rydw i'n meddwl ei bod yn reit amlwg beth yw bwriad y gwelliannau yma. Mi fyddai'r gwelliannau, o'u pasio, yn cyfyngu gweithrediad y Ddeddf i 10 mlynedd, ac ar ôl hynny, mi allai Gweinidogion Cymru osod rheoliadau sydd yn cynnig gwneud y dileu yn barhaol. Rŵan, buaswn i'n dadlau nad oes dim angen y gwelliannau yma o gwbl. Ymhen 10 mlynedd, neu unrhyw bryd yn y dyfodol, gallai unrhyw Lywodraeth ddeddfu i ailgyflwyno'r hawl i brynu, a byddai deddfwriaeth newydd yn destun llawer mwy o graffu nag unrhyw reoliadau. Felly, beth bynnag ydy eich barn chi am egwyddor y Ddeddf yma, os ydych chi o blaid craffu ar ddeddfwriaeth yn llawn, pleidleisiwch yn erbyn y grŵp yma o welliannau.