Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog. Rydw i yn ymwybodol eich bod chi wedi ymweld â prep kitchen Dylan's yn Llangefni yr wythnos diwethaf, ac rydw i, yn sicr, yn falch iawn o'r datblygiad economaidd sydd wedi dilyn twf busnes Dylan's, sydd wedi dod yn frand adnabyddus ar draws gogledd-orllewin Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae'r safle yna y buoch chi yn ymweld ag o yn safle na chafodd ei adeiladu ar gyfer Dylan's, ond datblygiad o safleoedd ydy hwn, a gafodd eu hadeiladu ar sbec, lle mae Dylan's wedi mynd i ddatblygu eu busnes nhw.
Rŵan, mi ydw i wedi codi gyda chi yn y gorffennol yr angen am safleoedd, am eiddo, sy'n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, fel bod cwmnïau eraill sy'n bodoli ar yr ynys yn gallu cael rhywle i fynd iddo fo i dyfu, i ddatblygu, i gyflogi mwy o bobl. Rydw i wedi cael arwyddion positif gennych chi yn y gorffennol. Hyd yma, nid oes dim datblygiad wedi bod ar hynny. Ond a allwch chi gadarnhau eich bod chi yn dal yn cefnogi'r egwyddor a'm diweddaru i ynglȳn ag unrhyw gamau y mae'r Llywodraeth yn, neu yn gallu, eu cymryd i sicrhrau bod yr eiddo yna ar gael i gwmnïau cynhyrchu bwyd Ynys Môn dyfu ynddyn nhw?