1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Ynys Môn? OAQ51371
Diolch. Rydym yn hyrwyddo ein diwydiant bwyd a diod ledled y DU, ac yn fyd-eang, gan ddefnyddio busnesau twf fel Halen Môn fel llysgenhadon brand, ac yn arddangos cynhyrchion manwerthu newydd bwyty Dylan’s. Mae hyn, ynghyd â chefnogaeth i wyliau bwyd Ynys Môn, yn dangos ein bod yn hyrwyddo bwyd a diod ardderchog Ynys Môn mewn modd cynhwysfawr.
Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog. Rydw i yn ymwybodol eich bod chi wedi ymweld â prep kitchen Dylan's yn Llangefni yr wythnos diwethaf, ac rydw i, yn sicr, yn falch iawn o'r datblygiad economaidd sydd wedi dilyn twf busnes Dylan's, sydd wedi dod yn frand adnabyddus ar draws gogledd-orllewin Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Ond mae'r safle yna y buoch chi yn ymweld ag o yn safle na chafodd ei adeiladu ar gyfer Dylan's, ond datblygiad o safleoedd ydy hwn, a gafodd eu hadeiladu ar sbec, lle mae Dylan's wedi mynd i ddatblygu eu busnes nhw.
Rŵan, mi ydw i wedi codi gyda chi yn y gorffennol yr angen am safleoedd, am eiddo, sy'n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, fel bod cwmnïau eraill sy'n bodoli ar yr ynys yn gallu cael rhywle i fynd iddo fo i dyfu, i ddatblygu, i gyflogi mwy o bobl. Rydw i wedi cael arwyddion positif gennych chi yn y gorffennol. Hyd yma, nid oes dim datblygiad wedi bod ar hynny. Ond a allwch chi gadarnhau eich bod chi yn dal yn cefnogi'r egwyddor a'm diweddaru i ynglȳn ag unrhyw gamau y mae'r Llywodraeth yn, neu yn gallu, eu cymryd i sicrhrau bod yr eiddo yna ar gael i gwmnïau cynhyrchu bwyd Ynys Môn dyfu ynddyn nhw?
Diolch. Rydych yn llygad eich lle, ymwelais â chegin baratoi bwyty Dylan’s yn Llangefni. Bûm yn y bwyty ym Mhorthaethwy hefyd, a blasu’r bwyd môr lleol gwych.
Sylwais fod cwmnïau bwyd eraill ar y safle yn Llangefni hefyd—ond fel y dywedwch, ni chafodd ei adeiladu'n benodol ar gyfer hynny. Ac rwy'n amlwg yn ymwybodol iawn ein bod wedi cyfarfod—oddeutu’r amser hwn y llynedd, rwy’n credu—ac fe awgrymoch y dylid gwneud Ynys Môn yn hyb. Ac rwy'n dal yn awyddus iawn i wneud hynny, cael hyb bwyd a diod cenedlaethol i ymateb i'r cyfleoedd, yn enwedig o ran y seilweithiau pwysig sydd gennym yng ngogledd Cymru. Ac fel y dywedasoch eich hun, mae Ynys Môn yn enwog am ei bwyd a’i diod, nid am y ddau gwmni rydym wedi'u crybwyll yn unig.
Yn amlwg, mae Arloesi Bwyd Cymru hefyd wedi’u lleoli Llangefni. Rydym yn eu cefnogi, yn amlwg, ynghyd â'r ddwy ganolfan arall yng Nghymru, ac maent yn bartner strategol allweddol. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â'r coleg addysg bellach lleol, i drafod yr hyn y maent yn ei wneud mewn perthynas â pharatoi bwyd. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn parhau i edrych arno, ac os ydych yn awyddus i gyfarfod â mi eto i gael y wybodaeth ddiweddaraf, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.
Rydym wedi bod yn gohebu dros y misoedd diwethaf, ar ran ffermwr o Ynys Môn—cynhyrchydd cig oen—sydd wedi tynnu sylw at y potensial ar gyfer allforion cig oen Cymru, yn enwedig yn Sawdi Arabia. Roedd hefyd yn arfer gweithio i’r Gwasanaeth Hylendid Cig. Dywed fod gan bobl Sawdi Arabia lawer mwy o ddiddordeb mewn carcasau ŵyn Cymru na thoriadau cig, ac yn amlwg, bydd hyn yn effeithio ar bwysigrwydd ymestyn oes silff. Ond pan fynychodd gyfarfod Cyswllt Ffermio ym mis Mehefin, nid oedd y cyflwyniad gan Hybu Cig Cymru ar allforion i Sawdi Arabia yn cyfeirio o gwbl at ddiwylliant Sawdi Arabia, lle maent yn hoff o fynd â charcasau ŵyn cyfan i'r anialwch i’w coginio.
Mewn un o'ch atebion i mi, fe ddywedoch chi fod rhai proseswyr cig coch yng Nghymru sy'n allforio i farchnadoedd pell yn gallu sicrhau oes silff o 42 diwrnod ar gyfer cynhyrchion cig oen Cymru, ond pan holais ymhellach ynglŷn â hynny, fe gadarnhaoch chi mai dim ond Stad y Rhug yng Nghorwen sy’n gallu cyflawni'r ffigwr 42 diwrnod hwnnw ar hyn o bryd. O gofio bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi ysgrifennu ataf yn dweud eu bod yn gweithio gydag awdurdod bwyd a diod Sawdi Arabia gyda’r bwriad o sicrhau mynediad at y farchnad ar gyfer cig oen y DU, pa gysylltiad sydd gennych, nid yn unig o ran ymgysylltu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a swyddogion Sawdi Arabia, ond er mwyn sicrhau bod cig oen Cymru yn gallu bodloni'r gofynion o ran y cyfnod o amser a'r carcasau cyfan, a fydd yn sbarduno mynediad at farchnad Sawdi Arabia a rhannau tebyg o'r byd?
Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig. Yn amlwg, mae oes silff yn rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn arno, yn enwedig yn sgil Brexit. Fe fyddwch yn gwybod bod traean o gig oen Cymru yn cael ei allforio i'r UE ar hyn o bryd. Felly, gyda'r holl ansicrwydd sydd ynghlwm wrth hynny, mae'n rhaid inni edrych ar farchnadoedd newydd, ac yn amlwg, mae'r dwyrain canol yn un ardal rydym yn edrych arni, ac yn sicr, mae fy swyddogion hefyd yn rhan o’r broses honno. O ran carcasau—rydych yn llygad eich lle, unwaith eto; rydym yn edrych ar yr anifail cyfan, a chredaf ei bod yn bwysig iawn i’r sgyrsiau hyn gael eu cynnal. Bûm yn siarad â chwmni yn y ffair aeaf ddydd Llun am garcasau hefyd, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n rhywbeth y mae diwylliant Sawdi Arabia yn hoff ohono. Felly, rwyf am eich sicrhau bod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt gyda fy swyddogion ar hyn o bryd.