Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n siŵr fod pawb yn awyddus i weld y penderfyniad cywir yn cael ei wneud yn y pen draw, ac os yw oedi yn arwain at hynny, ni fydd unrhyw un yn cwyno. Wrth gwrs, y rhagamod yw ein bod yn cael y penderfyniad cywir yn y pen draw. Ond mae'r arbrawf penodol hwn y cyfeiriais ato gynnau yn y Cleddau wedi llwyddo i leihau trwytholch nitradau i'r pridd a'r dyfrffyrdd bron i 90 y cant. Felly, pe bai hynny'n cael ei ymestyn dros y sir gyfan yn Sir Benfro, byddai hynny'n fantais enfawr i ni. Credaf fod cynlluniau o'r fath yn dangos manteision gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau canlyniadau dymunol y bydd pobl sydd â phryderon amgylcheddol ar frig eu hagendâu yn eu croesawu, heb orfod defnyddio ffon i orfodi pobl i wneud pethau nad ydynt yn dymuno'u gwneud. Mae hyn er lles gorau ffermwyr hefyd, gan fod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi datblygu'r cynllun baner las hwn, yn union fel y tractor coch, a fyddai'n ddull defnyddiol iawn o farchnata ein cynnyrch hefyd—eu bod wedi eu cynhyrchu gyda pholisi amgylcheddol sensitif. Felly, mae hynny'n newyddion da i'r diwydiant ffermio yn ogystal ag i'r amgylchedd.