Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ie, rwyf wedi ystyried sawl cynllun gwahanol, ac mae ffermwyr wedi sôn wrthyf am yr hyn y maent wedi'i wneud ynghylch y mater hwn. Fel y dywedais yn fy ateb i Paul Davies, rwyf wedi gweld ffigurau o £80,000 ac rwyf wedi gweld ffigurau o £150,000. Siaradais â ffermwr o Sir Fynwy, rwy'n credu, a oedd wedi gwneud hyn am ran fach iawn o'r gost honno. Felly, hoffwn sicrhau'r Aelodau fy mod yn agored iawn i'r awgrymiadau a gyflwynwyd, a dyna pam ei bod wedi cymryd llawer mwy o amser nag a ragwelais ar y cychwyn.