Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae Fforest Fawr yn ardal gerdded leol boblogaidd iawn ger Castell Coch. Mae llawer o bobl leol yn poeni nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw gynllun ar waith i ailblannu'r ardal wedi’r difa. Lansiwyd ymgyrch i alw am raglen ailblannu. A gaf fi ofyn ichi ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru i ganfod beth arall y gellid ei wneud ynghylch yr ailblannu?