1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhaglen cwympo coed yn Fforest Fawr yn Nhongwynlais? OAQ51376
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ystadau coetir Llywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol fod coed llarwydd sydd wedi’u heintio gan phytophthora ramorum yn cael eu cwympo yn Fforest Fawr ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli'r gwaith hanfodol hwn. P. ramorum yw'r clefyd coed mwyaf difrifol sydd wedi effeithio ar goedwigoedd yng Nghymru.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae Fforest Fawr yn ardal gerdded leol boblogaidd iawn ger Castell Coch. Mae llawer o bobl leol yn poeni nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw gynllun ar waith i ailblannu'r ardal wedi’r difa. Lansiwyd ymgyrch i alw am raglen ailblannu. A gaf fi ofyn ichi ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru i ganfod beth arall y gellid ei wneud ynghylch yr ailblannu?
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n ymwybodol fod ymgyrch ar waith a bod deiseb wedi'i lansio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro'r sefyllfa ac yn ceisio dewis yr opsiwn gorau, sef adfywio naturiol. Ond os na fydd hyn yn digwydd, byddant yn edrych ar ffyrdd eraill o ailstocio'r coetir yn Fforest Fawr.
Gwn fod cyfarfod cyhoeddus wedi’i gynnal yn Nhongwynlais, a bod nifer o bobl wedi’i fynychu, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno achos argyhoeddiadol dros adfywio'r coetir yn naturiol, a chredaf fod y bobl a fynychodd y cyfarfod yn fodlon. Ond credaf ei bod yn bwysig, fel y dywedodd y Gweinidog, os na cheir adfywio naturiol, eu bod yn ailystyried a ddylid plannu unrhyw goed.
Diolch i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chwestiwn. Gwn eich bod yn gweithio'n ddiwyd iawn bob dydd ar ran eich etholwyr, ac rwy’n siŵr y byddwch yn monitro'r sefyllfa hon, fel y byddaf innau'n ei wneud hefyd. Ar ôl i'r broses gynaeafu fynd rhagddi, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynorthwyo’r rhywogaethau brodorol fel ffawydd, derw, bedw, ceirios gwyllt, coed criafol a choed cyll yn y goedwig i adfywio'n naturiol. Ond byddant hefyd yn monitro'r adfywio yn y goedwig cyn ystyried a oes angen ailblannu a byddant hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau.
A gaf fi groesawu'r Gweinidog i'w chyfrifoldebau newydd a dymuno'n dda iddi gyda hwy?
A gaf fi adleisio'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud? Mae hwn yn safle mor bwysig yn ne Cymru. Mae'n boblogaidd iawn ynddo’i hun ond hefyd gan ei fod mor agos at Castell Coch. Credaf mai'r peth allweddol yw bod asesiad addas yn cael ei wneud ar ôl dwy neu dair blynedd a bod yr holl bobl sydd wedi bod bryderus ynglŷn â hyn, yr holl grwpiau cymunedol, yn cael y wybodaeth honno, fel y gallant ei gweld, ac yna, gall pob un ohonom fod yn sicr fod adfywio naturiol naill ai wedi gweithio, neu yn gweithio, neu fod angen ychwanegu at y broses, neu fod angen rhoi dull newydd ar waith.
Yn hollol, ac fel y dywedais wrth Aelodau eraill mewn cwestiynau eraill, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro hynny, a byddaf yn disgwyl iddynt roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, ac rwy’n disgwyl i'r Aelodau wneud yr un peth hefyd.