Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:41, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwch yn gwybod bod rhai o ffermwyr Cymru eisoes wedi bod yn cymryd camau i fynd i'r afael â llygredd nitrad ac i wella ansawdd dŵr. Ceir tystiolaeth fod gwaith da iawn yn cael ei wneud ledled Cymru. Er enghraifft, mae prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch Cymru yn esiampl o gynllun gwirfoddol llwyddiannus iawn a gafodd ei groesawu'n fawr gan ffermwyr. O gofio nad oedd eich ymgynghoriad yn ystyried trefniadau gwirfoddol a chynlluniau gwirfoddol, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gweithredu dull gwirfoddol mewn perthynas â'r mater hwn? A wnewch chi ystyried gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chyda'r diwydiant amaethyddol i fabwysiadu mesurau gwirfoddol yn lle hynny?