Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwyf wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r sector amaethyddol a chyda ffermwyr yn gyson. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth arall y buom yn ei ystyried dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth edrych ar yr amrywiaeth eang o ymatebion a gawsom. Cawsom dros 250 o ymatebion, ond rwyf hefyd wedi cael llawer o sgyrsiau â ffermwyr unigol a grwpiau o ffermwyr dros y blynyddoedd diwethaf.
Bu'n rhaid i mi gwblhau'r arolwg; mae'n ofyniad statudol o dan y gyfarwyddeb nitradau. Ond rydym hefyd wedi gweld rhai achosion sylweddol o lygredd amaethyddol eleni, felly bu'n rhaid i mi ddwyn popeth ynghyd, ac mae hyn yn ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Ond fel y dywedais wrth yr Aelod ar y cychwyn, byddaf yn gwneud datganiad o fewn y pythefnos nesaf.