Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod pryderon amgylcheddol yn cael eu cymryd o ddifrif, a bod y dulliau a ddefnyddir felly, os na chânt eu rheoli drwy statud neu reoliadau, yn cael eu harchwilio'n briodol, a bod modd ystyried y canlyniadau'n rhai credadwy o'r herwydd. Mae'r cynllun penodol hwn yn y Cleddau yn cael ei archwilio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, felly unwaith eto, os yw'r cyrff rheoleiddio yn gweithio law yn llaw â'r diwydiant, yn y pen draw, mae pawb yn hapus. Ac wedi'r cyfan, hapusrwydd yw'r hyn rydym ni fel gwleidyddion am ei sicrhau ar gyfer ein hetholwyr. Felly, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn cyhoeddi ei chanlyniad, yn gallu bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros hapusrwydd yng nghefn gwlad.