Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Wel, ie, hoffwn feddwl mai fi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros hapusrwydd yng nghefn gwlad.
Credaf, ar ddechrau'r cwestiwn diwethaf hwnnw, eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r cydbwysedd. Roeddwn bob amser yn arfer dweud, ar y pryd, fy mod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, felly roedd yn hollbwysig fy mod yn sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Nawr, wrth gwrs, mae gennym Weinidog yr Amgylchedd, ond nid yw hynny'n golygu bod yr amgylchedd yn llai pwysig i mi fel Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly, mae'n gwbl hanfodol fod unrhyw bolisi a gyflwynwch yn cyfleu ymagwedd gytbwys. Yn sicr, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael cynifer o ymatebion i'r ymgynghoriad a chael cynifer o ffermwyr unigol—a hefyd, yn amlwg, y ddau ffermwr a ddaeth i'm gweld mewn perthynas â'r cynllun baner las—yn cyflwyno'u syniadau ynglŷn â sut y maent wedi llwyddo i leihau lefel y nitradau, ac ati. Felly, rydych yn llygad eich lle, byddaf yn gwneud y datganiad hwnnw.