Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:43, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd.

Gan barhau i drafod parthau perygl nitradau, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r mater hwn yn peri cryn bryder ymhlith y bobl a allai gael eu heffeithio ganddo. Hoffwn gefnogi'r dull o weithredu a fabwysiadwyd gan ein cyd-Aelod o'r Preseli. O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, mae modd i Ysgrifennydd y Cabinet osgoi dull llawdrwm wrth gwrs os yw'n argyhoeddedig y gallwn gyflawni amcanion y gyfarwyddeb cynefinoedd a'r cyfarwyddebau amgylcheddol sy'n berthnasol yma drwy ddulliau gwirfoddol.

Rwy'n siŵr ei bod yn ymwybodol o arbrawf a gynhaliwyd gan ffermwyr yn y Cleddau sydd wedi llwyddo i leihau lefelau nitradau ar eu ffermydd i lai nai'r terfynau a geir yn rheolau a rheoliadau'r UE. Maent wedi cyflawni'r canlyniadau hyn am ran fach iawn o'r gost y byddent wedi mynd iddi pe baent wedi gorfod gosod pyllau newydd anferth ar gyfer storio slyri ac ati. Felly, a all hi, heb ddymuno rhagdybio canlyniadau'r ymchwiliad mewn unrhyw ffordd, roi sicrwydd i ni heddiw y bydd cynlluniau o'r math hwn yn sicr o gael eu cadw mewn cof fel y gallwn leihau costau rheolaethau amgylcheddol angenrheidiol i ffermwyr?