Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl fawndiroedd sy'n cynnal cynefinoedd lled-naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy erbyn 2020 ac wedi sefydlu rhaglen gyflawni integredig i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd. Mae'r rhaglen bresennol yn gwella cyflwr ein mawndiroedd, ac rydym wedi sicrhau arian ar gyfer camau pellach.