Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi eich hatgoffa chi, a phawb arall, fy mod wedi eich llongyfarch pan ddaethoch i'r pwyllgor? Felly, ychwanegaf ragor o longyfarchiadau yma, ond mae hynny eisoes wedi'i wneud.
Yr hyn roeddwn am ei ofyn yw: pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at y targed o sicrhau bod holl fawndiroedd Cymru yn rhan o'r broses o reoli gwaith adfer erbyn 2020, ac a ydych yn disgwyl y caiff hynny ei wneud ar sail linellol, neu a ydych yn ei ddisgwyl ar sail esbonyddol neu wrth-esbonyddol?