Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rydych yn llygad eich lle, mae gennym gytundeb cyllidebol, ac rwy'n falch iawn o rai o'r pethau a gawsom o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mae rhai o'r pethau a grybwyllwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, yn bwysig, ond ar y cyfan, cyfalaf ydynt. Gallech ddefnyddio gallu'r cyfalaf newydd rhyfedd hwn y mae llawer o sôn amdano sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru, y math hwn o gyfalaf trafodiadol, i edrych ar sut y gallai hwnnw fynd tuag at gartrefi cynnes, er enghraifft. Felly, credaf fod hynny'n dal i olygu eich bod chi'n cynnig am y £100 miliwn hwn, ac edrychaf ymlaen at weld effaith eich lobïo ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn y gyllideb derfynol.
Ond wrth gwrs, er eich bod wedi llwyddo i dalu'r taliadau fferm sylfaenol, ac fe gyhoeddoch hynny yn y ffair aeaf yr wythnos hon, mae cwestiynau ehangach ynghylch arian parhaus wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ymddengys yn gynyddol amlwg i mi na allwn ddibynnu ar yr addewidion a wnaed ynghylch polisi amaethyddol cyffredin a thaliadau fferm parhaus y tu hwnt i 2020. Mae llawer o sôn wedi bod am 2022, ond mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y gwarantau, maent yn hollol gadarn tan 2020, efallai, ond ar ôl hynny, maent yn edrych braidd yn sigledig yn fy marn i. Felly, a gaf fi ofyn iddi a yw'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw o safbwynt San Steffan ac a yw bellach mewn sefyllfa i roi sicrwydd llwyr yn y Cynulliad, ar gyfer tymor y Cynulliad hwn o leiaf—tymor y Cynulliad hwn—y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau'r amlen bresennol o daliadau fferm?