Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ydw, ar gyfer tymor y Cynulliad hwn fe fyddwn yn gwneud hynny—felly, tan 2021. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â 2020 a 2022. Rydym wedi cael sicrwydd y byddwn yn derbyn y cyllid hwnnw tan ddiwedd tymor Senedd San Steffan yn 2022, ond wedyn rydych yn clywed sibrydion gwahanol. Ond o'm rhan i, mae'r Trysorlys wedi rhoi sicrwydd i ariannu taliadau uniongyrchol yn llawn tan 2022.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll y cynllun taliadau sylfaenol. Roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi yn y ffair aeaf ddydd Llun y bydd 91 y cant o'n ffermwyr yn derbyn eu taliadau ddydd Gwener. Dyna'r diwrnod cyntaf y bydd modd iddynt wneud hynny. Felly, credaf y byddwn yn talu £201 miliwn i dros 14,000 o'n ffermwyr, a hoffwn dalu teyrnged i fy nhîm sydd wedi gwneud hynny. Nid ydynt yn dîm mawr iawn, ond unwaith eto, credaf pan—nid wyf wedi gweld y gwledydd eraill, pa ffigurau y maent hwy yn eu cyflwyno, ond buaswn yn dychmygu y byddwn ymhell ar y blaen unwaith eto.