Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig. Yn amlwg, mae oes silff yn rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych yn ofalus iawn arno, yn enwedig yn sgil Brexit. Fe fyddwch yn gwybod bod traean o gig oen Cymru yn cael ei allforio i'r UE ar hyn o bryd. Felly, gyda'r holl ansicrwydd sydd ynghlwm wrth hynny, mae'n rhaid inni edrych ar farchnadoedd newydd, ac yn amlwg, mae'r dwyrain canol yn un ardal rydym yn edrych arni, ac yn sicr, mae fy swyddogion hefyd yn rhan o’r broses honno. O ran carcasau—rydych yn llygad eich lle, unwaith eto; rydym yn edrych ar yr anifail cyfan, a chredaf ei bod yn bwysig iawn i’r sgyrsiau hyn gael eu cynnal. Bûm yn siarad â chwmni yn y ffair aeaf ddydd Llun am garcasau hefyd, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n rhywbeth y mae diwylliant Sawdi Arabia yn hoff ohono. Felly, rwyf am eich sicrhau bod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt gyda fy swyddogion ar hyn o bryd.