Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n hollol ymwybodol y dylwn wneud y gorau o'r llongyfarchiadau caredig cyn inni fwrw ymlaen â'r busnes go iawn yn y Siambr.
Mae'n faes pwysig iawn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu cynnal hynny yn y dyfodol. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn deall, gan fy mod yn newydd i'r portffolio, fy mod yn dal i drafod sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hynny ar ôl 2020. Felly, rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch i fynd ar drywydd hynny.FootnoteLink