Mawndiroedd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:01, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a minnau newydd eich llongyfarch, credaf y dylwn newid i'r modd ymosod yn awr. [Chwerthin.] Fel arall, fe gewch sicrwydd ffug ynglŷn â sut y byddwch yn cael eich trin yn y Siambr hon.

Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mawndiroedd yw'r dull pwysicaf o storio carbon yn ddaearol yn y DU—mae 20 gwaith yn fwy o garbon wedi'i storio ynddynt nag yng nghoedwigoedd y DU. Rydych yn dweud eich bod wedi sicrhau cyllid, ond daw llawer o'r cyllid ar gyfer y cynllun rheoli drwy gyllid LIFE yr UE ar hyn o bryd. Tybed beth fydd yn digwydd i hwnnw? A oes unrhyw gynlluniau ar gyfer 2020-1? Yn amlwg, adfer y mawndiroedd hyn a'u cynnal—a bydd angen cyllid parhaus ar gyfer y gwaith cynnal.