Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch. Wel, yn eich sylwadau ym mis Mehefin yn ein papur newydd lleol, ar ôl i'r Prif Weinidog gymeradwyo cais cynllunio yn Llai ar sail argymhelliad gan arolygydd annibynnol, dywedasoch y byddai materion dadleuol fel hyn yn parhau hyd nes bod y cyngor yn mabwysiadu cynllun datblygu lleol. Yn ddiweddar, ar gais trigolion, mynychais ymchwiliad cyhoeddus ym Mhenyffordd, Sir y Fflint. Gwn na allwch wneud sylwadau ar hynny, ond mynegwyd pryder i mi, oherwydd nad oedd eu cynllun datblygu lleol wedi'i gwblhau, ac rwy'n dyfynnu, fod datblygwyr yn manteisio ar y sefyllfa drwy gyfeirio at gyflenwad pum mlynedd a bylchau yn Nodyn Cyngor Technegol 1 er mwyn sicrhau'r cais cynllunio.
Ym mis Hydref, ysgrifennodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy atoch i ddweud bod y fethodoleg gyfrifo ar gyfer y cyflenwad tir pum mlynedd yn Nodyn Cyngor Technegol 1, a ddiwygiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2015, yn tanseilio cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru. Ac yn eich ymateb, a oedd yn eithaf defnyddiol mewn gwirionedd, dywedasoch y gallai'r diffyg cyflenwad tir ar gyfer tai dros bum mlynedd fod yn un o'r ystyriaethau—un o'r ystyriaethau—wrth bennu cais cynllunio; fodd bynnag, gall ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion polisi perthnasol gael eu gwrthod gan yr awdurdod a'r arolygydd cynllunio. A allech ymhelaethu ar hynny? Sut y dylai awdurdod lleol, ymgeisydd, ac arolygydd cynllunio yn arbennig ddehongli'r datganiad hwnnw yn y cyd-destun hwn?