1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
7. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau tai? OAQ51343
Diolch. Nodir polisi cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer tai yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Darperir canllawiau pellach mewn nodiadau cyngor technegol. Mae 'Nodyn Cyngor Technegol 1: Cydastudiaethau Argaeledd Tir Ar Gyfer Tai' yn darparu cyngor ar gyfrifo'r cyflenwad o dir ar gyfer tai. Mae 'Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy' yn darparu cyngor ar ddarparu tai fforddiadwy.
Diolch. Wel, yn eich sylwadau ym mis Mehefin yn ein papur newydd lleol, ar ôl i'r Prif Weinidog gymeradwyo cais cynllunio yn Llai ar sail argymhelliad gan arolygydd annibynnol, dywedasoch y byddai materion dadleuol fel hyn yn parhau hyd nes bod y cyngor yn mabwysiadu cynllun datblygu lleol. Yn ddiweddar, ar gais trigolion, mynychais ymchwiliad cyhoeddus ym Mhenyffordd, Sir y Fflint. Gwn na allwch wneud sylwadau ar hynny, ond mynegwyd pryder i mi, oherwydd nad oedd eu cynllun datblygu lleol wedi'i gwblhau, ac rwy'n dyfynnu, fod datblygwyr yn manteisio ar y sefyllfa drwy gyfeirio at gyflenwad pum mlynedd a bylchau yn Nodyn Cyngor Technegol 1 er mwyn sicrhau'r cais cynllunio.
Ym mis Hydref, ysgrifennodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy atoch i ddweud bod y fethodoleg gyfrifo ar gyfer y cyflenwad tir pum mlynedd yn Nodyn Cyngor Technegol 1, a ddiwygiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2015, yn tanseilio cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru. Ac yn eich ymateb, a oedd yn eithaf defnyddiol mewn gwirionedd, dywedasoch y gallai'r diffyg cyflenwad tir ar gyfer tai dros bum mlynedd fod yn un o'r ystyriaethau—un o'r ystyriaethau—wrth bennu cais cynllunio; fodd bynnag, gall ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion polisi perthnasol gael eu gwrthod gan yr awdurdod a'r arolygydd cynllunio. A allech ymhelaethu ar hynny? Sut y dylai awdurdod lleol, ymgeisydd, ac arolygydd cynllunio yn arbennig ddehongli'r datganiad hwnnw yn y cyd-destun hwn?
Diolch. Lywydd, hoffwn gymryd y cyfle—roedd yr enghraifft gyntaf a roddwyd gan Mark Isherwood yn fy etholaeth i, ond yn amlwg, gwnaed y penderfyniad hwn gan y Prif Weinidog, nid gennyf fi.
O ran y pwynt cyffredinol a godwch ynghylch Nodyn Cyngor Technegol 1, mae'n sefyllfa anodd iawn os nad yw'r cyflenwad tir pum mlynedd yn cael ei ddangos, ac yn sicr, mae'n digwydd nid yn unig yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd Cymru, fel y sonioch chi, ond mae'n digwydd mewn awdurdodau lleol eraill hefyd. Yn anffodus, os nad oes gan awdurdod lleol gyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai, maent yn agored i geisiadau cynllunio hapfasnachol ar gyfer datblygu tai. Fodd bynnag, dylid asesu pob cais o'r fath yn erbyn yr holl ystyriaethau polisi perthnasol, gan gynnwys yr angen i gynyddu'r cyflenwad tir ar gyfer tai, ac egwyddor datblygu cynaliadwy. Dyna'r pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae nifer fawr o ddatblygiadau tai sylweddol, neu ddatblygiadau arfaethedig, yn ardal Taf Elái a Phontypridd. Un o'r problemau, wrth gwrs, sy'n codi yn ystod y broses honno yw capasiti gwasanaethau cyhoeddus lleol. Yn benodol, rwy'n meddwl am wasanaethau meddyg teulu. A fyddant yn gallu ymdopi â thai ychwanegol yn y cyswllt penodol hwnnw?
Nawr, ymddengys i mi mai un o'r pryderon rydym wedi'u cael—ac rwyf wedi clywed nifer o bractisau meddygon teulu yn mynegi hyn bellach—yw nad ydynt yn ymgyngoreion statudol yn y prosesau cynllunio hynny. Ymddengys i mi, gyda maint y datblygiadau tai sydd gennym, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnal adolygiad ynghylch pwy sy'n ymgyngoreion statudol, ac y dylid ystyried cynnwys cyrff fel practisau meddyg teulu lleol yn hynny o beth. Mae'n rhan uniongyrchol berthnasol o'r broses ac yn wybodaeth angenrheidiol iawn i'w chael, ond nid yw wedi'i chynnwys fel mater o drefn ar hyn o bryd.
Diolch. Ydw, rwy'n cytuno—mae capasiti cyfleusterau gofal sylfaenol yn ystyriaeth berthnasol a phwysig wrth ystyried rhinweddau cynllunio datblygiadau arfaethedig. Yn amlwg, y bwrdd iechyd lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer y boblogaeth leol, felly buaswn yn disgwyl iddynt gymryd rhan wrth baratoi unrhyw gynlluniau datblygu. Maent yn gwybod pa gapasiti sydd ganddynt. Mae'n bwysig fod meddygfeydd yn bwydo'r wybodaeth honno i'r bwrdd iechyd lleol.
Rydym yn trafod ar hyn o bryd a ddylai'r byrddau iechyd fod yn ymgyngoreion statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio mawr.