2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:17, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich llythyr a dderbyniais y bore yma, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n amlinellu sut y bydd cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o fudd i bobl yn etholaeth y Rhondda. Yn eich llythyr, soniwch am nifer o bethau rydych newydd eu hamlinellu: gwella gofal plant drwy gynllun peilot yng Nglynrhedynog, cefnogi adeiladwyr lleol, a

'gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus drwy hybiau cymunedol', beth bynnag y mae hynny'n ei olygu. Mae hyn oll yn amwys iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ni allaf weld sut y bydd yn effeithio o gwbl ar y 33.1 y cant o boblogaeth Rhondda o oedran gweithio sy'n economaidd anweithgar. Mae'r ffigur hwnnw'n llawer uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 24.8 y cant, a'r ffigur ar gyfer y DU, sef 22 y cant. Mae'r rhesymau dros yr anweithgarwch economaidd hwn yn rhai hanesyddol, ac mae'r problemau economaidd o ganlyniad i hynny yn rhai cronig. Dyna pam fod y Rhondda angen i'ch Llywodraeth roi camau penodol ar waith. Pennir canlyniadau'r cynllun hwn gan nifer y bobl sydd mewn swyddi da yn y pen draw. A allwch ddweud wrthym i ba raddau rydych yn gobeithio lleihau anweithgarwch economaidd yn y Rhondda ar ôl i chi roi cynllun tasglu'r Cymoedd ar waith? A allwch roi ffigur i ni, os gwelwch yn dda?