– Senedd Cymru am 2:17 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf, Leanne Wood.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tasglu ar gyfer y cymoedd yn Rhondda? OAQ51381
Cyhoeddwyd cynllun cyflawni manwl gan y tasglu ar 7 Tachwedd. Roedd yn nodi sut y byddwn yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu mewn tri maes blaenoriaeth: darparu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni; cefnogi gwasanaethau cyhoeddus gwell; a chryfhau cymunedau. Bydd llawer a'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl sy'n byw yng nghymoedd y Rhondda.
Diolch am eich llythyr a dderbyniais y bore yma, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n amlinellu sut y bydd cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o fudd i bobl yn etholaeth y Rhondda. Yn eich llythyr, soniwch am nifer o bethau rydych newydd eu hamlinellu: gwella gofal plant drwy gynllun peilot yng Nglynrhedynog, cefnogi adeiladwyr lleol, a
'gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus drwy hybiau cymunedol', beth bynnag y mae hynny'n ei olygu. Mae hyn oll yn amwys iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ni allaf weld sut y bydd yn effeithio o gwbl ar y 33.1 y cant o boblogaeth Rhondda o oedran gweithio sy'n economaidd anweithgar. Mae'r ffigur hwnnw'n llawer uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 24.8 y cant, a'r ffigur ar gyfer y DU, sef 22 y cant. Mae'r rhesymau dros yr anweithgarwch economaidd hwn yn rhai hanesyddol, ac mae'r problemau economaidd o ganlyniad i hynny yn rhai cronig. Dyna pam fod y Rhondda angen i'ch Llywodraeth roi camau penodol ar waith. Pennir canlyniadau'r cynllun hwn gan nifer y bobl sydd mewn swyddi da yn y pen draw. A allwch ddweud wrthym i ba raddau rydych yn gobeithio lleihau anweithgarwch economaidd yn y Rhondda ar ôl i chi roi cynllun tasglu'r Cymoedd ar waith? A allwch roi ffigur i ni, os gwelwch yn dda?
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod dros y Rhondda yn ymuno â mi i ddiolch yn fawr am y modd y mae llawer o bobl o gymoedd y Rhondda wedi cyfrannu at y gwaith o lunio ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Rwy'n siŵr ei bod wedi darllen y cynllun rydym wedi'i amlinellu ac a gyhoeddwyd gennym ar 7 Tachwedd, a buaswn yn synnu pe gallai ddisgrifio'r cynllun hwnnw fel cynllun sy'n amwys. Mae degau o gamau gweithredu ynddo gydag amserlenni a thargedau sy'n amlinellu'n union sut y byddwn yn ateb y cwestiynau a ofynnwyd ganddi.
Ond mae'n nodi pwynt pwysig iawn, wrth gwrs, gan fod anweithgarwch economaidd yn fater hollbwysig sy'n wynebu holl gymunedau'r Cymoedd, gan gynnwys yr etholaeth y mae'n ei chynrychioli yn y Rhondda. Rydym wedi cynnwys targed yn ein cynllun i greu 7,000 o swyddi ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf er mwyn sicrhau bod cymunedau'r Cymoedd yn cael yr un cyfleoedd i gael gwaith o ansawdd uchel â chymunedau mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae'r targed hwnnw yn y cynllun ac mae'r amserlenni yn y cynllun. Buaswn yn cynghori'r Aelod dros y Rhondda i'w ddarllen.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich araith wreiddiol ar weithgareddau eich tasglu, fe nodoch yr amgylchedd naturiol yn y Cymoedd, ac yn enwedig yng nghymoedd y Rhondda, fel enghraifft dda o hynny, lle y ceir ardaloedd mawr o dir comin ar flaenau'r Cymoedd, ased ar draws de Cymru nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol o bell ffordd. Gan fod peth amser wedi bod bellach ers i chi nodi'r ased amgylcheddol hwnnw, buaswn yn falch o wybod sut yn union y mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud gwell defnydd ohono i hybu mwy o weithgarwch economaidd yn y Cymoedd, ond yn anad dim, ffordd well o fyw i'r bobl sy'n byw yn y Cymoedd drwy ddefnyddio adnodd naturiol gwych y tir comin ar draws de Cymru.
Cytunaf yn llwyr â'r pwynt a wnaeth yr Aelod dros dde Cymru. Ac nid yn unig y tir comin, ond mae'r holl dir ar draws amgylchedd Cymoedd de Cymru yn ased enfawr nid yn unig i'r rhai ohonom a gafodd eu geni, eu magu, ac sy'n byw yn y Cymoedd ac yn eu cynrychioli, ond i'r wlad gyfan. Drwy greu'r hyn rydym wedi'i alw ar hyn o bryd yn barc tirlun yn y Cymoedd, rwy'n gobeithio y gallwn wneud y mwyaf nid yn unig o botensial y tir comin, ond yr amgylchedd yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau mynediad ar gyfer pobl yn y Cymoedd i'r amgylchedd lleol, ond hefyd i ddiogelu a gwella'r amgylchedd hwnnw, a gweithio gyda thirfeddianwyr a ffermwyr ac eraill yn yr ardal er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwerthfawrogi'r amgylchedd sydd gennym yn y Cymoedd, ond hefyd i sicrhau ein bod yn gallu sicrhau gwerth ar gyfer y cymunedau sy'n byw gerllaw'r amgylchedd hwnnw ac ynddo. Rwy'n gobeithio bod, ac y bydd y parc tirlun yn parhau i ysgogi camau i alluogi i bob un o'r uchelgeisiau a amlinellwyd gan yr Aelod, ac a rennir gennyf innau, gael eu bodloni.