Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:26, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddychwelyd, os caf, at gynllun gweithredu tasglu'r Cymoedd. Credaf y buasai pob un ohonom yn cytuno ei fod yn cynnwys, ar lefel uchel, amcanion canmoladwy tu hwnt o ran ein cymunedau, a diolch i aelodau'r tasglu, ac yn wir, i bawb a gymerodd ran yn yr amrywiol ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar draws ardaloedd y Cymoedd.

Ond fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfaddef, rwy'n siŵr, bydd y modd y caiff y cynllun ei gyflawni, wrth gwrs, yn dibynnu'n allweddol ar y manylion. Mae 68 o gamau gweithredu yn y cynllun yn ei gyfanrwydd, ond rydych yn cyfeirio at dargedau penodol. Efallai y gallaf fod o gymorth iddo yma, gan fod y cynllun ei hun yn dangos, ar dudalen 46, mai dim ond dau darged penodol sydd yno mewn gwirionedd. Ar ôl edrych drwy'r holl ddangosyddion llesiant, dau yn unig sydd yno. A 7,000 o swyddi ychwanegol, gyda 2,000 ohonynt yn cael eu creu o ganlyniad i weithgarwch entrepreneuraidd. A all ddweud, er eglurder, ai swyddi ychwanegol net yw'r rheini—yn y jargon? Ai swyddi a grëwyd yw'r rhain yn hytrach na swyddi a grëwyd, a ddiogelwyd ac a gynorthwyir? Gan mai dyma'r unig darged yn y cynllun, pa gyllideb sydd wedi'i neilltuo i greu'r swyddi hynny? Hyd yn oed os cymerwn y safon, y £30,000 neu £40,000 ar gyfer pob swydd, y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio, rydych yn sôn am gannoedd o filiynau o arian ychwanegol. Pe baem ond yn cyflawni'r lefel o greu swyddi rydym wedi'i gweld yn yr ardaloedd menter—oddeutu £90 miliwn yng Nglyn Ebwy a chreu 170 o swyddi yn unig yn yr achos hwnnw—rydych yn sôn am biliynau, ac eto ni allaf weld unrhyw arian ychwanegol wedi'i neilltuo yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.