Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae'r £90 miliwn yng Nglyn Ebwy, wrth gwrs, hefyd yn cynnwys rhannau o'r gwaith o ddeuoli ffordd yr A465, a ohiriwyd gan Blaid Cymru. O ran y cwestiwn uniongyrchol a ofynnoch, pa un a yw'r ffigur yn cyfeirio at swyddi net, yr ateb yw 'Ydy, mae'n cyfeirio at swyddi net.' Ac o ran y cyllid ar gyfer hynny, bydd yr arian yn dod o gyllidebau Ysgrifenyddion y Cabinet a fydd yn cyfrannu tuag at hynny.
Yr hyn y mae tasglu'r Cymoedd yn ceisio'i wneud yw llunio a llywio polisi'r Llywodraeth i'n galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau yn y Cymoedd. Gwn eich bod yn rhannu'r uchelgeisiau hynny, ac rwy'n ddiolchgar i chi am y pwyntiau rydych wedi eu gwneud ynglŷn â hynny yn y gorffennol. Ar hyn o bryd, rydym yn arwain rhaglen o seminarau ym mhob un o'r saith hyb strategol i edrych ar sut yn union y bydd pob hyb yn cyfrannu at y targed swyddi a amlinellwyd gennych, ond hefyd at dargedau eraill a amlinellir yn y weledigaeth gyffredinol. Pan fyddwn wedi cwblhau'r dasg honno—erbyn diwedd mis Chwefror gobeithio—gallaf wneud datganiad pellach ynglŷn â hynny.