Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Lywydd, caiff y Cynghorydd McEvoy glywed fy nghasgliadau ar yr un pryd â phawb arall. Fe ddywedaf hyn wrtho: rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn y lle hwn yn gwasanaethu democratiaeth drwy sicrhau na cheir unrhyw wrthdaro buddiannau. Yn fy marn i, mae gwasanaethu fel aelod o awdurdod lleol ac Aelod o'r lle hwn yn arwain at wrthdaro buddiannau.