Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau o'r mwyafrif llethol a wrthododd y bleidlais amgen ar ffurf cynrychiolaeth gyfrannol yn y refferendwm, a sut y mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn seiliedig ar 'dyfalwch sawl sedd y gallwch ei hennill'? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddeddfu y bydd mwyafrif llethol o ddwy ran o dair o bleidlais y cynghorwyr a'r cynghorau yn angenrheidiol os yw cynghorau'n awyddus i newid eu system bleidleisio?