Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Diolch am eich ateb. Rwy'n gobeithio y bydd yna ddull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.
Nawr, mae llawer iawn o bobl ifanc y dyddiau hyn yn mynd i'r brifysgol neu i'r coleg, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod. Ond efallai nad dyma'r llwybr gorau i bawb, ac yn wir, efallai bod nifer sylweddol o bobl ifanc nad ydynt eisiau mynd i'r coleg ac efallai y buasai'n well ganddynt gael hyfforddiant yn y gwaith yn unig. A yw'r dull hwn yn rhan o'ch syniadau mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd a'r rhannau perthnasol eraill o'ch portffolio?