Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:46, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ydy. Un o'r meysydd gwaith a ysgogwyd gan y cyn-Weinidog sgiliau, ac arweinydd y tŷ bellach, sydd yn ei sedd heddiw, yw bwrw ymlaen â rhaglen gyflogadwyedd a rhaglen brentisiaeth i bobl o bob oed a fydd yn darparu sgiliau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol ac nad ydynt ar gael, o bosibl, yn y gweithlu ar hyn o bryd. Bydd hynny'n parhau i fod yr un mor bwysig yn y Cymoedd ag ydyw mewn mannau eraill. Gall sut y byddwn yn darparu'r rhaglen honno yn y Cymoedd, wrth gwrs, fod yn wahanol, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.

Wrth ateb y cwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, ceisiais amlinellu bod gennym nifer o dargedau gwahanol a fydd yn ysgogi'r broses o greu 7,000 o swyddi newydd yn y Cymoedd. Byddant yn swyddi a fydd yn galw am lefelau sgiliau nad ydym yn meddu arnynt yn y boblogaeth ar hyn o bryd o bosibl, a byddwn yn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r union sgiliau hynny ar gyfer y dyfodol.