Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Roeddwn yn meddwl—os gallwn gamu'n ôl rhywfaint hefyd—tybed a allwn ofyn cwestiwn dyfnach i ni'n hunain, ac ni wn a yw hwnnw wedi cael sylw digonol eto yn y cynllun a gyhoeddwyd, a dyna pam fod mentrau'r gorffennol wedi methu. Oherwydd y peth mwyaf sobreiddiol rwyf wedi'i ddarllen—. Rwy'n annog yr Aelodau anrhydeddus—o, arfer drwg yn y fan honno. Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen yr astudiaeth ymgysylltu, sydd mewn gwirionedd yn seiliedig ar arolygon gyda phobl yn y Cymoedd ynglŷn â sut y maent yn gweld pethau. Ac mae'n sobreiddiol yn wir: gyda 45 y cant yn dweud bod cyflwr eu canol trefi'n wael; 54 y cant yn dweud bod cymorth ar gyfer busnesau'n wael; 30 y cant yn dweud bod y gwasanaethau iechyd lleol yn wael; a 45 y cant, gwasanaethau trafnidiaeth gwael. Ac mae'n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain pam ein bod yn y sefyllfa hon. Ac oni bai bod gennym ddadansoddiad digonol a dadansoddiad onest—ac rwy'n sylweddoli, i Lywodraeth sydd wedi bod mewn grym ers bron i ddau ddegawd, fod hwnnw'n gwestiwn anodd i'w ofyn—ond os nad ydym yn ei ofyn, cawn ein condemnio, oni chawn, i ailadrodd methiannau'r gorffennol?