Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mewn llawer o ffyrdd, mae'r cynllun a gyhoeddais ar 7 Tachwedd yn gynllun o'r Cymoedd, yn hytrach na chynllun ar gyfer y Cymoedd yn unig. Mae'n ymwneud â gwrando ar bobl, siarad â phobl, cael sgyrsiau gyda phobl, ynglŷn â beth y maent eisiau ei weld yn eu cymunedau yn y dyfodol. Ac mae llawer ohonynt yn disgrifio eu cymunedau yn y ffordd rydych wedi'i ddangos y prynhawn yma. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond yr hyn rwyf am ei ddweud wrthych yw nad rôl y Llywodraeth yw disgrifio'r problemau'n unig; rôl y Llywodraeth yw gweithredu fel catalydd i greu atebion, a dyna beth y mae'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud.