Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Mae llawer rwy'n cytuno ag ef yn yr ymateb hwnnw, a phob yn dipyn, gwelwn lawer o fentrau da, a cheisio eu cyfuno yw'r her, ac rwy'n meddwl tybed a oes angen i ni edrych ar fodelau traddodiadol nad ydynt wedi ateb y broblem i'r graddau y buasem yn ei ddymuno. Modelau triniaeth yn gyntaf ydynt yn y bôn sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn amgylcheddau hostel yn hytrach nag mewn cartref sy'n cael ei gefnogi—rydych yn sicrhau bod y person yn teimlo'n ddiogel yn eu tenantiaeth ac mewn dull sy'n canolbwyntio ar y cartref. Ond fel y dywedais, triniaeth yn gyntaf yw'r modelau traddodiadol wedi bod, a dyna a wnewch cyn i chi roi rhywun yn eu cartref eu hunain.
Mae trawsnewid hwn i fod yn fodel tai yn gyntaf yn her, ond rydym yn gweld llwyddiant rhyfeddol yn barod, er enghraifft, yn y prosiect ar Ynys Môn, sydd wedi cael ei dreialu gan sefydliad The Wallich. Rydym wedi gweld rhai gwledydd yn mabwysiadu tai yn gyntaf, fel yn y Ffindir, lle mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn barod i gynnal adolygiad sylfaenol o'r hen systemau—triniaeth yn gyntaf, yn gyffredinol—ac edrych ar fodel tai yn gyntaf?