Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:42, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwbl agored i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ehangu tai yn gyntaf. Fel chithau, rwy'n gweld y synnwyr a'r manteision o ran sicrhau bod gan bobl gartref cynnes, diogel a hwnnw yw'r bloc adeiladu y gallant ei ddefnyddio i ddechrau adeiladu eu bywyd a mynd i'r afael â phroblemau megis camddefnyddio sylweddau ac ati. Oherwydd rydym yn gwybod bod llawer o bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau hefyd yn cael trafferth cynnal tenantiaeth ddiogel ac mae hynny'n ychwanegu at y math o straen a phwysau sydd ar yr unigolion hynny. Buaswn yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn trafodaethau mwy manwl. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar yr enghraifft yn y Ffindir, ac unrhyw enghreifftiau eraill o'r model tai yn gyntaf a lle mae'n gweithio'n dda. Ond i mi, mae'n gwneud synnwyr perffaith.