Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 6 a 7 gael eu grwpio. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy'n diwallu anghenion teuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog mewn meysydd megis iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw'r llwybr tai, GIG Cymru i Gyn-filwyr a datblygiad llwybr cyflogaeth ar gyfer personél sy'n gadael y lluoedd arfog, yn ogystal â chyn-filwyr.