Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ymuno ag eraill i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd. Yn ddiweddar, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wobr aur gan y Weinyddiaeth Amddiffyn am ei ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog. Dyna'r cyngor cyntaf a'r unig gyngor yng Nghymru i wneud hynny hyd yma. A wnewch chi longyfarch Rhondda Cynon Taf, a sut y byddwch yn hyrwyddo'r arfer gorau hwn ledled Cymru?