Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rwy'n synnu braidd at y cwestiwn gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru. Mae wedi bod yn Aelod hirdymor yn y lle hwn, a gŵyr mai gwaith craffu yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Rwy'n synnu nad yw'n cydnabod hynny. Gall graffu arnaf yn ystod y cwestiynau ac mewn pwyllgorau, pan fo'n dewis gwneud hynny. Rwy'n mynychu pob pwyllgor pan gaf wahoddiad i wneud hynny. Rwyf am ddweud wrtho fod angen iddo edrych yn fanylach efallai ar y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli. Roeddwn ym Manwen ychydig wythnosau'n ôl, yn siarad ag aelodau o'r gymuned yno, ac roeddent yn cymryd rhan lawn yn y broses o lunio'r math o welliannau y maent eisiau eu gweld yn eu cymuned. Buaswn yn awgrymu bod yr Aelod yn treulio rhywfaint o amser gyda hwy.