Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich llongyfarch ar eich dyrchafiad o'r meinciau canol i'r fainc flaen unwaith eto? Ond hefyd, roeddech yn sôn am dasglu'r Cymoedd, ac rydych wedi tynnu sylw at ddau hyb, mewn gwirionedd. Rydych wedi cynnwys hyb Castell-nedd ac rydych newydd gynnwys un cwm Llynfi yn awr. Wrth gwrs, mae cwm Afan rhwng y ddau—