Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar wyf fi i'r Aelod am ei sylwadau caredig iawn—sy'n esiampl i'r holl Aelodau, buaswn yn ei ddweud?
Lywydd, mae'r portffolio sydd gennyf yn awr yn cyfuno nifer o swyddogaethau, fel yr amlinellodd yr Aelod. Rwy'n gobeithio y byddwn, drwy gyfuno cyfrifoldeb dros lywodraeth leol a darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad, yn gallu dilyn rhaglen i gynnal a chefnogi rhagoriaeth ym mhob un o'n gwasanaethau cyhoeddus, gan ddiogelu ac amddiffyn y bobl sy'n eu darparu a sicrhau bod y bobl y mae pawb ohonom yn eu gwasanaethu, ar bob ochr i'r Siambr, yn cael y gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl y gallwn eu darparu.