Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Rydych hefyd yn dod â'ch gwaith o'ch rôl flaenorol o ddarparu rhaglen tasglu'r Cymoedd gyda chi, ac rydym wedi clywed cryn dipyn am hynny heddiw. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol ein bod wedi bod yn sôn llawer am hyn oherwydd mae'n bosibl ei fod yn bwnc—dros y 18 mis diwethaf, mae'n debyg nad ydym wedi clywed digon am fecanwaith y modd y bydd yn gweithio. Felly, credaf fod angen i ni edrych arno.
Un elfen y mae gennyf ddiddordeb ynddi yw'r mater ailhyfforddi. Rydym yn byw, y dyddiau hyn, mewn marchnad lafur gymharol hyblyg. Os yw pobl yn gadael eu swyddi am ba reswm bynnag, mae'n bosibl y bydd angen eu hailhyfforddi ar gyfer sector neu waith arall, ac felly mae sgiliau'n fater allweddol, fel rydych wedi'i gydnabod yn y gorffennol. Sut y bydd tasglu'r Cymoedd yn gwella ailhyfforddi ac uwchsgilio, a pha fath o ryngweithio y byddwch yn ei wneud yma gyda'r Gweinidog sgiliau, Eluned Morgan?